Digwyddiadau
Mae Cyswllt yn trefnu o leiaf bedwar digwyddiad bob blwyddyn sy'n rhoi cyfle i'r aelodaeth glywed a holi siaradwyr sy'n amlwg yn y maes cyfathrebu yng Nghymru. Ymysg y siaradwyr sydd wedi cymryd rhan mor belled mae'r Prif Weinidog, Rhodri Morgan, Llefarydd Maer Llundain, Guto Harri, Cyfarwyddwr Ofcom yng Nghymru, Rhodri Williams a Golygydd Radio Cymru, Siân Gwynedd. Mae'r Gymdeithas hefyd yn cyfuno cyfarfodydd â chyfleoedd i ymweld ag adeiladau a safleoedd arbennig megis Ty’r Cyffredin a Thy’r Arglwyddi, Canolfan y Mileniwm, Llyfrgell Genedlaethol Cymru a'r Senedd ym Mae Caerdydd. Yn ogystal â'r cyfle i wrando ar siaradwyr dylanwadol, mae digwyddiadau Cyswllt yn gyfle i ddod i adnabod pobl ac i rwydweithio â chyfathrebwyr proffesiynol eraill.
Digwyddiad nesaf yn 2010:
Marchnata Cwpan Ryder – budd tymor hir i Gymru?
• Lleoliad: Nos Da, Glanyrafon, Caerdydd, CF11 6AG
• Dyddiad: 12:30pm - Dydd Gwener, 17 Medi 2010
Siaradwyr:
• Jonathan Jones – Croeso Cymru
• Eryl Williams - Asbri Golf Ltd
Mae’r sesiwn hon ar agor i unrhywun sydd yn gweithio yn y maes cyfathrebu neu unrhywun sydd a diddordeb yn y maes dan sylw.
Os hoffech fynychu neu am rhagor o wybodaeth cysylltwch drwy ebost a meilyr@fbagroup.co.uk erbyn ddydd Gwener, 3 Medi 2010.
Gydol 2010 bydd nifer o ddigwyddiadau a manteision ychwanegol ar gael i aelodau Cyswllt.
|