Digwyddiadau

Mae Cyswllt yn trefnu o leiaf bedwar digwyddiad bob blwyddyn sy’n rhoi cyfle i’r aelodaeth glywed a holi siaradwyr sy’n amlwg yn y maes cyfathrebu yng Nghymru. Mae’r Gymdeithas hefyd yn cyfuno cyfarfodydd â chyfleoedd i ymweld ag adeiladau a safleoedd arbennig megis Tŷ’r Cyffredin a Thŷ’r Arglwyddi, Canolfan y Mileniwm, Llyfrgell Genedlaethol Cymru a’r Senedd ym Mae Caerdydd. Yn ogystal â’r cyfle i wrando ar siaradwyr dylanwadol, mae digwyddiadau Cyswllt yn gyfle i ddod i adnabod pobl ac i rwydweithio â chyfathrebwyr proffesiynol eraill.

Digwyddiad nesaf yn 2012:

Maw 29

Targedu’r cyhoedd trwy’r We – sut mae pobl Cymru yn amsugno gwybodaeth heddiw?

Mai 24

Gwerthu i mewn i radio: defnyddio’r radio i gyfathrebu mewn oes ddigidol?

Mai 31

Targedu’r cyhoedd trwy’r We – sut mae pobl Cymru yn amsugno gwybodaeth heddiw?

Meh 21

Argyfwng Cyfathrebu – sut i ddelio â newyddion drwg sydd ar dorri?

Awst 8

Pa gyfraniad a wnaeth Bro Morgannwg i raglenni teledu Cymraeg?

Hyd 25

Sut y gallaf ddefnyddio rhwydweithiau cymdeithasol yn fy ngwaith bob dydd?

Medi 27

Sut y gallaf ddefnyddio rhwydweithiau cymdeithasol yn fy ngwaith bob dydd?

Tach 22

Sut y gallaf ddefnyddio rhwydweithiau cymdeithasol yn fy ngwaith bob dydd?