Gair o’r Gadair – Ionawr 2012

Ionawr 22, 2012 gan Angharad Jones Newyddion

Annwyl Gyfeillion,

Gair o’r Gadair – Ionawr 2012

Yn gyntaf, gai ddymuno Blwyddyn Newydd Dda i holl aelodau Cyswllt. Gobeithio eich bod i gyd wedi cael Nadolig da – mae’r cyfan yn teimlo yn y gorffennol pell erbyn hyn! Gobeithiaf eich bod chi’n barod am 2012 brysur ac wrth gwrs yn barod i gefnogi a mynychu digwyddiadau Cyswllt yn ystod 2012.

Wedi’r cyfarfod cyffredinol ym mis Rhagfyr, mae gennym dîm rheoli newydd ar gyfer 2012 – clicicwch yma i weld aelodau’r tîm rheoli ar gyfer 2012.

Ar hyn o bryd, mae’r tîm yn brysur yn paratoi digwyddiadau cyffroes ar gyfer aelodau Cyswllt yn 2012. Os oes gennych chi syniadau ar gyfer digwyddiad posib cofiwch gysylltu â’r tîm rheoli – cyswllt@fbagroup.co.uk

Wedi cyfarfod cyntaf y tîm rheoli newydd wythnos diwethaf, penderfynwyd y bydd amnest (aelodaeth rad ac am ddim) am y flwyddyn gyfan i’n holl aelodau eto eleni! Felly, cofiwch sôn wrth eich holl gydweithwyr a ffrindiau fod aelodaeth am ddim i Cyswllt ar gyfer 2012.

Byddwn mewn cysylltiad yn fuan i roi gwybod i chi am ddigwyddiadau Cyswllt ar gyfer 2012.

Cofion cynnes,

Meilyr