Amdano ni:


Mae aelodau yn medru elwa o’r manteision canlynol:

Digwyddiadau - cyfle i fynychu o leiaf pedwar digwyddiad bob blwyddyn sy'n rhoi cyfle i chi glywed a holi siaradwyr sy'n amlwg yn y maes cyfathrebu yng Nghymru.

Rhwydweithio - prif amcan Cyswllt yw rhoi cyfle i unigolion yn y maes i rwydweithio, a chreu cysylltiadau newydd yn y byd cyfathrebu.

E-gylchlythyr Cyswllt - mae ein haelodau yn derbyn cylchlythyr cyson sydd yn cynnwys erthyglau, manylion ein digwyddiadau, swyddi sydd ar gael yn y maes, yn ogystal â chynnig gofod i aelodau rannu barn a gwybodaeth am eu gweithgareddau neu i hysbysebu swyddi.

Gostyngiadau - mae Cyswllt yn gyson yn edrych am gyfleoedd i greu partneriaethau er budd ein haelodau. Yn ystod 2007/08 fe wnaeth pob aelod o Cyswllt dderbyn tanysgrifiad i'r cylchgrawn 'tu chwith' fel rhan o'u haelodaeth. Yn ystod 2008/09 fe wnaeth ein haelodau dderbyn nifer o ostyngiadau ychwanegol (e.e. gostyngiadau i ginio a chynadleddau'r pleidiau gwleidyddol). Mae’r tîm rheoli ar hyn o bryd wrthi yn trefnu nifer o ostyngiadau tebyg ar gyfer 2010/11.

Mentora - yn 2010/11 bydd y gymdeithas yn lansio cyfleoedd mentora i’n haelodau yn cychwyn gyda’n darlith flynyddol - ‘Gair o Brofiad.’

 


 

› Digwyddiadau a Rhwydweithio 2010/11 (cliciwch yma)

Mae Cyswllt yn trefnu o leiaf bedwar digwyddiad bob blwyddyn sy'n rhoi cyfle i'r aelodaeth glywed a holi siaradwyr sy'n amlwg yn y maes cyfathrebu yng Nghymru. Ymysg y siaradwyr sydd wedi cymryd rhan mor belled mae'r Prif Weinidog, Rhodri Morgan, Llefarydd Maer Llundain, Guto Harri, Cyfarwyddwr Ofcom yng Nghymru, Rhodri Williams a Golygydd Radio Cymru, Siân Gwynedd. Mae'r Gymdeithas hefyd yn cyfuno cyfarfodydd â chyfleoedd i ymweld ag adeiladau a safleoedd arbennig megis Ty’r Cyffredin a Thy’r Arglwyddi, Canolfan y Mileniwm, Llyfrgell Genedlaethol Cymru a'r Senedd ym Mae Caerdydd. Yn ogystal â'r cyfle i wrando ar siaradwyr dylanwadol, mae digwyddiadau Cyswllt yn gyfle i ddod i adnabod pobl ac i rwydweithio â chyfathrebwyr proffesiynol eraill.

 

E-gylchlythyr Cyswllt - Cysylltu (cliciwch yma)

'Cysylltu' yw e-gylchlythyr misol Cyswllt. Mae'n cynnwys erthyglau, manylion ein digwyddiadau, yn ogystal â chynnig gofod i aelodau rannu barn a gwybodaeth am eu gweithgareddau neu i hysbysebu swyddi. Daw 'Cysylltu' fel e-bost i'ch cyfrifiadur deuddeg gwaith y flwyddyn.

 

Gwefan

Pwrpas y wefan yw cynnig diweddariad ar ddigwyddiadau PR yn Nghymru, wedi'i anelu at bobl PR, Cymraeg eu hiaith, yn bennaf. Cynigir man cyswllt, safle i ddod o hyd i gyn-rifynnau Cysylltu, ynghyd â byr-restr o aelodau eraill a Swyddogion y grwp.

 

Gostyngiadau 2010/11

Mae Cyswllt yn gyson yn edrych am gyfleoedd i greu partneriaethau er budd ein haelodau. Yn ystod 2007/08 fe wnaeth pob aelod o Cyswllt dderbyn tanysgrifiad i'r cylchgrawn 'tu chwith' fel rhan o'u haelodaeth. Yn ystod 2008/09 fe wnaeth ein haelodau dderbyn nifer o ostyngiadau ychwanegol (e.e. gostyngiadau i ginio a chynadleddau'r pleidiau gwleidyddol). Mae’r tîm rheoli wrthi’n trefnu nifer o ostyngiadau tebyg ar gyfer 2010/11.

Mae partneriaethau eisoes ar y gweill ar gyfer 2010/11. Isod mae gostyngiadau presennol Cyswllt:

Sefydliad Materion Cymreig - gostyngiad o 10% ar gost aelodaeth.
Cylchgrawn 'tu chwith' - 10% o ostyngiad am danysgrifiad blwyddyn.
Cynadleddau Gwleidyddol Cymreig - ar ôl llwyddiant y gostyngiad a gynigiwyd yng Nghynhadledd Plaid Cymru yn 2009 mae tîm rheoli Cyswllt wrthi’n trefnu gostyngiadau i aelodau ar gyfer cynadleddau gwleidyddol Cymreig y Gwanwyn yn 2010. Rhagor o ostyngiadau i ddod...

 

Mentora

Rydym yn ymwybodol o'r angen i groesawu a chynorthwyo newydd-ddyfodiaid i'r diwydiant. Mae'r gymdeithas felly yn lansio yn Nhachwedd 2010 ein Darlith Mentora Cyswllt - ‘Gair o Brofiad.’ Bob blwyddyn fydd yna arbenigydd o’r diwydiant yn cynnig gair o brofiad am y diwydiant.

Bydd copi o’r areithiau i’w weld yma: