Newyddion - Gair o’r Gadair


• Media Wales – cip y tu ôl i’r llenni
- gan Tim Hartley, 28 Ebrill 2010

Cafodd aelodau Cyswllt gyfle i ymweld â chanolfan Media Wales, y grwp sy’n gyfrifol am gynhyrchu’r Western Mail, y South Wales Echo, Wales on Sunday a gwefan Wales Online, yng nghanol Caerdydd.  Cafwyd sawl ‘tip’ ar sut i werthu stori i newyddiadurwyr ar draws y teitlau.  Mae’r cyfarfod golygyddol rhwng 9 a 10 y bore felly peidiwch â ffonio bryd hynny ac 1 o’r gloch yw’r deadline am straeon.  Sicrhewch eich bod yn cynnig llun o safon ac mae cynnig embargo ar ddatganiad i’r wasg yn gallu bod o gymorth iddynt. Wedi’r ymweliad a’r stafell newyddion cawsom gyfle i weld stiwdio deledu newydd Media Wales lle maen nhw’n recordio eitemau trafod ar gyfer y wefan.  Yn ôl Tryst Williams y Dirprwy Bennaeth Cynnwys, maen nhw’n hapus i dderbyn clips fideo fel rhan o unrhyw ddatganiad i’r wasg i’w gosod ar y wefan.  Diolch mawr i Tryst a’i dîm am y croeso!


John Rowlands a Sylvia Davies, aelodau Cyswllt, yn stiwdio deledu Media Wales.

 


 

Rhwydweithio Cymdeithasol - Cyfle marchnata newydd neu freuddwyd ofer?
- gan Tim Hartley, Hydref 2009

Wel mi gewch chi anghofio’r breuddwydio achos ymddengys fod cyfathrebu ar draws y rhwydweithiau cymdeithasol bellach yr un mor hanfodol i ni ag oedd postio’r datganiad i’r wasg a’i lwytho i’r ffacs ers talwm. Yng nghyfarfod mis hydref Cyswllt cafodd aelodau gyngor gan ddau o arbenigwyr penna’r we ar sut i gyrraedd marchnadoedd a chynulleidfaoedd newydd. Esboniodd Marc Webber (cyn bennaeth cynnwys ITV.com) pa wefannau oedd yn llwyddo a pha rai oedd wedi methu a chreu ‘buzz’ i’w perchnogion er mwyn cyfathrebu eu negeseuon. Rhoddodd Wil Stephens (Cube Interactive) gyngor i ni am sut i greu gwefannau a rhwydweithiau sy’n denu pobl i ymweld dro ar ôl tro er mwyn sicrhau cysylltiad di-dor rhyngom ni a’n cynulleidfaoedd. Trafodwyd yr angen i benodi rhywun â chyfrifoldeb penodol dros y math yma o gyfathrebu gan ysgrifennu’r dyletswyddau hyn i mewn i gytundebau staff. Mae angen newid diwylliant cwmnïau a sefydliadau mawr fel nad yw hyrwyddo drwy Facebook ag ati yn cael ei ystyried yn wastraff ar amser. Cafwyd hefyd gyngor ar sut i gael y gorau o Twitter, Facebook … a hyd yn oed rhwydwaith Saga. Sy’n profi i fi beth bynnag, nad ydw i’n rhy hen i ddechrau dysgu sgil newydd!


Wil Stephens o Cube Inteactive a Mark Webber o Ymgynghorwyr Dipping Bridge
yng nghyfarfod Cyswllt

 


 

Golwg ar Golwg
- gan Tim Hartley, Mawrth 2009

Mae'r papur dyddiol cyntaf Cymraeg ar fin cael ei gyhoeddi ar-lein a chafodd aelodau Cyswllt rhagflas o'r hyn sydd ar y gweill. Dylan Iorwerth, golygydd gyfarwyddwr Golwg oedd yn ein harwain drwy'r broses o gynllunio'r fenter newydd ac yn amlinellu ei obeithion ar gyfer y dyfodol. Cafodd y cyfarfod ei gynnal ar 6 Fawrth yn Y Drwm, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth.


Dylan Iorwerth, Golygydd Gyfarwyddwr Golwg


Dylan Iorwerth gyda Tim Hartley, Cadeirydd Cyswllt

 


 

• Obama Mania!
- gan Tim Hartley, Ionawr 2009

Cafodd aelodau Cyswllt gyfle i wylio gadarnhau Barack Obama fel Arlywydd America mewn digwyddiad ar y cyd gyda Public Affairs Cymru (Ionawr 20). Dathlwyd llwyddiant Arlywydd du cyntaf yr UDA yng Ngwesty Nos Da, Caerdydd a chafwyd sgwrs ddifyr gydag Aled Edwards. Bu Aled yn gweithio ar ymgyrch Obama am dair wythnos a chyhoeddwyd ei ddyddiadur, "West Wing Wales - Obama for America : a Welsh Campaign Experience," ar y noson.


Yn y llun mae Tim Hartley, Cadeirydd Cyswllt, Aled Edwards a Darren Hughes, Cadeirydd PAC

 


 

• Haleliwia! ... Diod Nadolig Cyswllt - yng nghwmni Brigyn
- gan Tim Hartley, Rhagfyr 2008

Croeso i aelodau hen, presennol a newydd i ymuno gyda ni ar 11 Rhagfyr yn Tafarn Taf ar gyfer ein dathliad Nadolig.

Bydd y band Brigyn gyda ni yn canu ei sengl 'Haleliwia' y mae Leonard Cohen roi caniatâd iddynt ei recordio. Bydd y noson yn cychwyn am 5:30 yr hwyr gyda diod am ddim i aelodau Cyswllt. Mae croeso i chwi fynychu boed yn aelod neu beidio.

Rhowch wybod i Meilyr Ceredig (meilyr.ceredig@wa.grayling.com) er mwyn sicrhau eich tocyn diod. Byddaf i a mince pie yn aros amdanoch...

Cyfarchion y tymor!

 


 

• Sgwrs gyda Guto Harri, Pafiliwn S4C, Maes yr Eisteddfod - 8 Awst 2008
- gan Tim Hartley, Awst 2008


Yn y llun mae Tim Hartley, Cadeirydd Cyswllt; Guto Harri; a Daran Hill, Cadeirydd PAC.

Gyda'r Eisteddfod Genedlaethol yng Nghaerdydd, gweithiodd Cyswllt ar y cyd gyda Public Affairs Cymru a'r Gymdeithas Deledu Frenhinol i gynnal derbyniad ar y Maes ym Mhabell S4C. Y siaradwr gwadd oedd Guto Harri, cyn ohebydd gwleidyddol y BBC a chyn weithredwr materion cyhoeddus gyda Fleishman-Hillard, a symudodd yn ddiweddar i weithio fel Ymgynghorydd Cyfathrebu i Faer newydd Llundain, Boris Johnson. Cynigodd Guto orolwg o'r broses hel newyddion a chynigodd ei farn ar y diwydiant materion cyhoeddus a chyfathrebu, fel newyddiadurwr a chyn chwaraewr yn y maes. Y brif ffocws wrth gwrs oedd ei apwyntiad fel aelod o dîm Boris Johnson, a'i gred ym mhwysigrwydd diffuantrwydd mewn cyfathrebu gwleidyddol.

 


 

• Darlledu Gwasanaeth Cyhoeddus - Pa ddyfodol?
- gan Tim Hartley, Ebrill 2008


Yn y llun mae Hywel Wiliam, Ofcom, Tim Hartley, Cadeirydd Cyswllt, Daran Hill, Cadeirydd PAC, a Rhodri Williams Ofcom

Ar ddydd Mawrth 22 Ebrill, fe gynhaliodd Cyswllt a Public Affairs Cymru ddigwyddiad ar y cyd yn swyddfeydd Ofcom Cymru. Daeth bron i 30 o bobl ynghyd i drafod ail adolygiad Ofcom o ddarlledu gwasanaeth cyhoeddus. Rhodri Williams, Cyfarwyddwr Ofcom Cymru, oedd wrth y llyw yn rhannu ei brofiadau ef o ddarlledu yng Nghymru ac effaith technolegau modern, gan gynnwys teledu digidol a darlledu ar y We, ar y model draddodiadol o ddarlledu gwasanaeth cyhoeddus. Cawsom gyflwyniad o fodelau darlledu gwasanaeth cyhoeddus newydd posibl. Hefyd, trafodwyd yr angen i raglenni, sy'n cael eu darlledu yng Nghymru a lledled y DU i gynrychioli Cymru, ei phobl, ei diwylliant a'i gwleidyddiaeth. Mwynhaodd aelodau PAC a Cyswllt drafodaeth fywiog dros fwyd a gwin.

 


 

• Y Celfyddydau Yng Nghymru - Pwysigrwydd a dylanwad y celfyddydau yng Nghymru
- gan Tim Hartley, Chwefror 2008

Ar 22 Chwefror 2008, cynhaliwyd sesiwn yng Nghanolfan y Mileniwm i drafod y celfyddydau yn Nghymru. Yno i gyflwyno'r digwyddiad oedd Jon Gower, Gohebydd Celfyddydau BBC Cymru.