Polisi Preifatrwydd y Wefan

Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu preifatrwydd ymwelwyr â’n gwefan; mae’r polisi hwn1 yn esbonio sut y byddwn yn trin eich gwybodaeth bersonol.

 

Mae ein gwefan yn defnyddio cwcis. Trwy ddefnyddio ein gwefan a chytuno â’r polisi hwn, rydych yn cydsynio i’n defnydd o gwcis yn unol ag amodau’r polisi hwn.

 

(1)      Pa wybodaeth ydyn ni’n ei chasglu?

 

Efallai y byddwn yn casglu, storio a defnyddio’r mathau canlynol o wybodaeth bersonol:
(a)     gwybodaeth am eich cyfrifiadur ac am eich ymweliadau â’r wefan hon a’r defnydd a wnewch ohoni (gan gynnwys eich cyfeiriad IP, lleoliad daearyddol, math a fersiwn y porydd, system gweithredu, ffynhonnell atgyfeiriad, hyd yr ymweliad, pa dudalennau a mordwyo’r wefan;

 

(b)     gwybodaeth rydych yn ei darparu inni er mwyn cofrestru gyda ni ar gyfer cael diweddariadau trwy e-bost, (gan gynnwys eich enw, cyfeiriad post a chyfeiriad e-bost);

 

(c)      unrhyw wybodaeth arall rydych yn dewis ei danfon atom.

 

(2)      Cwcis

 

Mae cwci yn cynnwys darn o destun  a ddanfonir gan we weinydd  at borydd gwe, ac sy’n cael ei storio gan y porydd. Yna caiff yr wybodaeth ei danfon yn ôl at y gweinydd bob tro mae’r porydd yn gofyn am dudalen oddi wrth y gweinydd. Mae hyn yn galluogi’r gwe weinydd i adnabod a thracio’r porydd gwe.

 

Rydym yn defnyddio cwcis “sesiwn” ar y wefan i’ch: dilyn chi wrth ichi fordwyo’r wefan;

caiff cwcis sesiwn eu dileu o’ch cyfrifiadur pan gaewch eich porydd.

 

Rydym yn defnyddio Google Analytics i ddadansoddi’r defnydd a wneir o’r wefan hon. Mae Google Analytics yn cynhyrchu gwybodaeth ystadegol ac o fathau eraill am y defnydd a wneir o’r wefan trwy gyfrwng cwcis, sy’n cael eu storio ar gyfrifiaduron defnyddwyr. Defnyddir yr wybodaeth a gynhyrchir am ein gwefan ni i greu adroddiadau am y defnydd a wneir o’r wefan. Bydd Google yn storio’r wybodaeth hon. Mae polisi preifatrwydd Google ar gael yn: http://www.google.com/privacypolicy.html

 

Mae’r rhan fwyaf o borwyr yn caniatáu ichi wrthod pob cwci, ac mae rhai’n caniatáu ichi wrthod cwcis trydydd parti yn unig. Er enghraifft, yn Internet Explorer gallwch wrthod pob cwci trwy wasgu ar “Tools”, “Internet Options”, “Privacy”, a dewis “Block all cookies” trwy ddefnyddio’r dewisydd llithr. Fodd bynnag, bydd blocio pob cwci yn cael effaith negyddol ar eich gallu i ddefnyddio nifer o wefannau.

 

(3)      Defnyddio eich gwybodaeth bersonol

 

Defnyddir gwybodaeth bersonol a ddanfonir atom trwy’r wefan hon at y dibenion a nodir yn y polisi preifatrwydd hwn neu mewn rhannau perthnasol o’r wefan.

 

Efallai y defnyddiwn eich gwybodaeth bersonol i:

 

(a)     wella eich profiad pori trwy bersonoleiddio’r wefan;

 

(b)     sicrhau y gallwch ddefnyddio’r gwasanaethau sydd ar gael ar y wefan;

 

(c)      danfon hysbysiadau e-bost atoch yr ydych wedi gofyn yn benodol amdanynt;

 

(d)     delio ag unrhyw ymholiadau a chwynion a wneir gennych chi neu amdanoch ynghylch y wefan.

 

Ni fyddwn heb gael eich cydsyniad penodol chi yn rhoi eich gwybodaeth bersonol i unrhyw drydydd partïon at ddibenion marchnata uniongyrchol.

 

(4)      Datgeliadau

 

Efallai y datgelwn wybodaeth amdanoch i unrhyw un o’n gweithwyr, swyddogion, asiantwyr, cyflenwyr neu isgontractwyr i’r graddau y mae hynny’n rhesymol angenrheidiol at y dibenion a nodir yn y polisi preifatrwydd hwn.

 

Efallai hefyd y datgelwn eich gwybodaeth bersonol:

 

(a)     i’r graddau y mae gennym gyfrifoldeb i wneud yn ôl y gyfraith;

 

(b)     mewn cysylltiad ag unrhyw gamau cyfreithiol neu gamau cyfreithiol posib;

 

(c)      er mwyn sefydlu, ymarfer neu amddiffyn ein hawliau cyfreithiol (gan gynnwys rhoi gwybodaeth i eraill at ddibenion atal twyll a lleihau risg credyd);

 

[(d)    i brynwr (neu ddarpar brynwr) unrhyw fusnes neu ased yr ydym yn ei werthu’n neu’n ystyried ei werthu; ac

 

[(e)    i unrhyw berson y credwn yn rhesymol allai wneud cais i lys neu awdurdod cymwys arall am yr wybodaeth bersonol honno pan, yn ein barn resymol ni, y byddai’r cyfryw lys neu awdurdod yn rhesymol debygol o orchymyn datgelu’r wybodaeth bersonol honno.

 

Ac eithrio’r hyn a ganiateir yn y polisi preifatrwydd hwn, ni fyddwn yn rhoi eich gwybodaeth i drydydd partïon.

 

(5)      Diogelwch eich gwybodaeth bersonol

 

Cymerwn ragofalon technegol a threfniadol rhesymol i osgoi colli, camddefnyddio neu newid eich gwybodaeth bersonol.

 

Byddwn yn storio’r wybodaeth bersonol a ddarparwch ar ein gweinyddion diogel (wedi’u diogelu gan gyfrinair a wal dân).

 

Yn naturiol, mae danfon data dros y rhyngrwyd yn gynhenid anniogel, ac ni allwn warantu diogelwch data a ddanfonir dros y rhyngrwyd.

 

(6)      Newidiadau polisi

 

Efallai y diweddarwn y polisi preifatrwydd hwn o bryd i’w gilydd trwy roi fersiwn newydd ar ein gwefan. Dylech edrych ar y dudalen hon bob hyn a hyn i sicrhau eich bod yn fodlon ag unrhyw newidiadau.

 

Efallai hefyd y rhoddwn wybod ichi am newidiadau i’n polisi preifatrwydd trwy ebost.

 

(7)      Eich hawliau

 

Gallwch ein gorchymyn i roi ichi unrhyw wybodaeth bersonol sydd gennym amdanoch. Darperir gwybodaeth o’r fath ar yr amod eich bod yn:

 

(a)     talu ffi (a bennwyd ar hyn o bryd yn £10.00); a

 

(b)     dangos tystiolaeth briodol o bwy ydych (at y dibenion hyn, derbyniwn fel arfer lungopi o’ch pasbort wedi’i ardystio gan gyfreithiwr neu fanc a chopi gwreiddiol o fil cyfleustod yn dangos eich cyfeiriad presennol).

 

Efallai y gwrthodwn ddatgelu gwybodaeth bersonol o’r fath i’r graddau y caniateir hynny gan y gyfraith.

 

(8)      Gwefannau trydydd parti

 

Mae’r wefan yn cynnwys cysylltiadau â gwefannau eraill. Nid ydym yn gyfrifol am bolisïau neu arferion preifatrwydd gwefannau trydydd parti.

 

(10)    Diweddaru gwybodaeth

 

Rhowch wybod inni os oes angen cywiro neu ddiweddaru’r wybodaeth bersonol sydd gennym amdanoch.

 

(11)    Cysylltu

 

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y polisi preifatrwydd hwn neu am y ffordd yr ydym yn trin eich gwybodaeth bersonol, ysgrifennwch atom trwy ebost i [email] neu trwy’r post i [postal address].2

 

(12)    Rheolydd Data

 

Y rheolydd data sy’n gyfrifol am yr wybodaeth a gesglir ar y wefan hon yw [company/business name].

 

Ein rhif cofrestru diogelu data yw [number]3